top of page
Meeting

 

Goruchwyliaeth Proffesiynol i

Arweinwyr mewn Addysg

 

Mae Goruchwyliaeth Broffesiynol yn cynnig lle i arweinwyr mewn addysg fyfyrio ar y gwaith maent yn ei wneud gydag arweinydd arall profiadol a goruchwyliwr cymwys.  Mae seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr, meddygon a chyfreithwyr i gyd yn derbyn goruchwyliaeth, yn enwedig ar achosion anodd ac, mae'n ymddangos i mi, na ddylai arweinwyr mewn addysg fod yn eithriad i'r arfer hwn.

​

Byddai'n darparu proses ffurfiol o gymorth proffesiynol, sy'n sicrhau datblygiad parhaus ac effeithiolrwydd eich ymarfer arweinyddiaeth trwy fyfyrio rhyngweithiol, gwerthuso er mwyn dehongli a rhannu arbenigedd mewn ymdrech i'ch gwneud yn fwy effeithiol yn eich rôl.  

​

Yn debyg i oruchwyliaeth mewn meysydd gwaith eraill, mae goruchwylio arweinwyr mewn addysg yn cynnwys tair prif swyddogaeth: 1) Datblygiadol 2) Cefnogol a 3) Ansoddol. 


Y prif gategorïau ffocws fydd:

- Darparu gofod rheolaidd a gwarchodedig i chi fyfyrio ar gynnwys a phroses eich gwaith

- Datblygu dealltwriaeth a sgiliau arwain o fewn eich gwaith

- Derbyn gwybodaeth a safbwynt arall yn ymwneud a'ch gwaith

- Derbyn adborth ar gynnwys a phroses

• Cael eich dilysu a'ch cefnogi, fel person ac fel gweithiwr proffesiynol

- Sicrhau nad ydych yn cael eich gadael i gario materion anodd ar eich pen eich hun

- Cael y gofod i archwilio trallod personol, profiadau blaenorol sy'n pwyso ar eich meddwl a phatrymau ymddygiad anymwybodol a allai gael eu hachosi gan y gwaith

- Cynllunio a defnyddio eich adnoddau personol a phroffesiynol yn well

- Bod yn rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol

- Sicrhau ansawdd y gwaith

​

CYSYLLTWCH A MI NAWR i drefnu Sesiwn Ddarganfod am ddim er mwyn dylunio ein partneriaeth oruchwylio, egluro disgwyliadau a sefydlu eich nodau ac amcanion. Gallaf ddarparu rhaglen o gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu rithwir fel y penderfynwn yn y Sesiwn Ddarganfod. Bydd y rhaglenni'n rhedeg ar gylchred o 6 sesiwn gyda chyfarfod adolygu i benderfynu ar y camau priodol nesaf. Ar ddiwedd pob sesiwn byddaf yn rhoi crynodeb i chi o'r pwyntiau allweddol o'r hyn a ddysgwyd, gan gynnwys sialens ôl-sesiwn. Byddaf hefyd yn gofyn ichi am eich adborth er mwyn sicrhau fy mod yn parhau i ddiwallu eich anghenion.

 

Cysylltwch a mi

©2023 by My Site. Proudly created with Wix.com

bottom of page